“…mwgwd papur o ben Dylan Thomas…enillais i a Ceri Davies y wobr gyntaf am ‘y pâr hanesyddol gorau’ yn y carnifal diwethaf yn Lacharn (2013) â hwnnw. Fi oedd Caitlin a Ceri oedd Dylan Thomas.”
“…the Paper mask of Dylan Thomas’ Head…Ceri Davies and I won first prize as ‘Best
Historic Couple’ at the last carnival in Laugharne (2013) with that, I was Caitlin, Ceri dressed as Dylan Thomas.”
“Dyma gyw iâr porslen lle rydym yn cadw wyau o ieir fy rhieni.”
Saer coed yw Sam yn byw ger Llandysul, Sir Gaerfyrddin. Gallwch weld rhai o’i ddarnau ar y seld!
“This is a porcelain chicken in which we keep eggs from my parent’s hens.”
Sam is a woodworker living near Llandysul, Carmarthenshire you can see some of his pieces on the dresser!
“The tiny cat was given to my daughter by her great grandmother.
When my Mother and I moved into our house, which used to be a brewery, 35 years age, we found two dogs in the black, slate fireplace and they had been painted black. My Mother removed the paint and we’ve had them on display in the house ever since.”
“Rhoddwyd y gath fechan i fy merch gan ei hen nain.
Pan symudodd fy Mam a finnau i mewn i’n tŷ, a arferai fod yn fragdy, 35 mlynedd yn ôl, ddaru ni ddarganfod dau gi yn y lle tan o lechen ddu ac roeddynt wedi eu paentio’n ddu. Fe dynnodd fy Mam y paent i ffwrdd ac rydym wedi eu harddangos yn y tŷ ers hynny.”
Mae’r Afal Hapus ar fenthyg gan Justine – daw o Efrog Newydd [ y ‘Big Apple’]ac mae yna gloch fach yn canu tu fewn. Mae’r fefusen cerameg sy’n hongian ar fenthyg gan Mark Folds
The ‘Happy Apple’ was loaned by Justine – it’s from New York (the Big Apple) and has a chiming bell inside. The ceramic, dangly limbed strawberry was loaned by Mark Folds.
“Syrthiais mewn cariad gyda’r esgidiau pan welais i nhw mewn siop elusen. Rwyf wedi eu darlunio cymaint o weithiau, ond allwn ni byth eu gwisgo felly maent yn eistedd gyda balchder ar silff yn fy stiwdio yn aros i gael eu darlunio fel print unwaith yn rhagor. I mi gall esgidiau fod yn arwydd o economi. amser, statws a naws.
Mae’r mochyn yn hen ac wedi colli ei dopyn. Fe olchais i o pan ges i o’n anrheg, felly nawr mae’n edrych fel brid prin gan iddo golli peth o’i liw. Daeth o gartref Hen fodryb Ada, fy ngŵr a oedd wedi teithio’n bell ac fe ddes yn hoff iawn ohoni yn yr amser byr y des i’w hadnabod.”
“I loved the shoes as soon as I saw them in a charity shop. I have drawn them so many times, but could never wear them so they sit with pride on my studio shelves waiting to be drawn into yet another print. Shoes for me can describe an economy, time, status and mood!
The pig is old and has lost his stopper. I washed him when I was given him, so he now looks like some rare breed as he lost some of his colour. He came from my husband’s great Aunt Ada who was a very well travelled lady of whom I became very fond in the short time I knew her.”
Rhoddwyd y creadur bach pren hwn [bwytäwr morgrug? Buwch?] I Maya pan ddaeth i fyw yng Nghymru rhyw 20 mlynedd yn ôl. Daeth a llawer o lwc a hapusrwydd iddi ac mae wir i’w drysori.
Maya was given this little wooden creature (anteater? cow?) when she came to live in Wales nearly 20 years ago, it has brought her lots of luck and happiness and is a very precious object in Maya’s house.
“Mae’r Seld ar hyn o bryd yn byw yn fy stiwdio. Rwyf wedi cynnwys llun o’r gŵr a’i gwnaeth yn 1997, Steve Hanley. Mae’n ddarn o gelf yn ei hunan gan ei fod wedi ei wneud allan o fyrddau torri a rholbrennau wedi eu hailgylchu, llwyau pren ,cyllyll a ffyrc.Rwyf hefyd wedi cynnwys par o Ledis Cymreig mewn hetiau du a brynais mewn siop ail law yn Llandysul. Fy nhad-cu oedd piau’r camera ‘Box Brownie’ a dyma’r camera cyntaf imi ei ddefnyddio.”
“My Dresser currently lives in my studio. I have included a picture of the man who made it in 1997, Steve Hanley. It is a work of art in itself made as it is from reclaimed chopping boards and rolling pins, wooden spoons and cutlery. I have also included a pair of Welsh ladies in stove pipe hats that I bought in a junk shop in Llandysul. The ‘Box Brownie’ camera belonged to my Grandad and was the first camera I ever used.”